Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 10:28 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-358 Ailgyflwyno Cymorth Cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog.
2.2P-04-360 Deiseb Man Gwan Pen-y-lan
Cytunodd y Pwyllgor i:
Anfon yr ohebiaeth gan BT at y deisebwyr;
Aros am ymateb y Gweinidog.
2.3P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gomisiynu gwaith ymchwil ar gostau darparu teithio am ddim ar fysiau i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser, gan ystyried yr astudiaeth beilot a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr;
Clywed tystiolaeth lafar gan y deisebwyr, efallai mewn cynhadledd fideo;
Ceisio barn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar bwnc y ddeiseb.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-296 Cynigion annheg ar fenthyciadau i fyfyrwyr
Cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr y Gweinidog at y deisebwyr er mwyn cael eu sylwadau, gyda golwg ar gau’r ddeiseb os ydynt yn fodlon.
3.2P-04-349 Darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg - Caerffili
Cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr a chyhoeddiad y Gweinidog at y deisebwyr ac i geisio’u barn ynghylch sut y mae ei ddatganiad ysgrifenedig yn berthnasol i’w pryderon.
3.3P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute
Cytunodd y Pwyllgor i:
Anfon y ddeiseb a’r wybodaeth a gasglwyd hyd yma at y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, a gofyn am i’r broses o lunio cysyniad ar gyfer sefydlu corff o’r fath gael ei rhoi ar agendâu’r grŵp yn y dyfodol;
Anfon yr ymatebion i’r ymgynghoriad at y deisebwyr fel y gallant lunio cysyniad ar yr un pryd, ac awgrymu eu bod yn lobïo Aelodau unigol i gynnal dadl sy’n cael ei harwain gan Aelod ar y pwnc hwn yn y Cynulliad.
3.4P-04-341 Gwastraff a Llosgi
Cytunodd y Pwyllgor i:
Wahodd tystion, gan gynnwys y Gweinidog, i roi tystiolaeth lafar ar ynni o wastraff;
Hysbysu’r deisebwyr bod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i bolisi ynni, a gofyn a hoffent awgrymu meysydd y gellid holi amdanynt yn yr ymchwiliad.
3.5P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East
3.6
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr gan dynnu eu sylw at benderfyniad cyngor cymuned Llandyfái a gofyn am eu hymateb iddo, gyda golwg ar gau’r ddeiseb os ydynt yn fodlon.
3.7P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
O ystyried ymateb y Gweinidog a chynnwys yr ymatebion i’r ymgynghoriad, cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am fanylion am unrhyw broblemau a geir gyda’r cysylltiadau ffordd presennol;
Cynghori’r deisebwyr ynglŷn â’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
4. P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau
4.1Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r cyfarfod yn parhau’n gyhoeddus.
Cytunodd y Pwyllgor wedyn i:
Anfon y dystiolaeth a gasglwyd a manylion am bryderon at yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth;
Ychwanegu ail argymhelliad at yr adroddiad, sef bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ailddechrau trafodaethau â Llywodraeth y DU ar fater cau gorsafoedd gwylwyr y glannau, yn enwedig yng ngoleuni’r digwyddiadau yn yr Eidal.
Anfon adroddiad y Pwyllgor at y Pwyllgor Materion Cymreig.
5. Trafodaeth ynghylch y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog - y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ystyried ymhellach gyda’r Gweinidog y ddeiseb Cŵn Tywys y Deillion – Lle Sy’n Cael Ei Rannu, unwaith y bydd y Gweinidog o’r farn bod gan y Llywodraeth ddigon o dystiolaeth i arddel safbwynt;
Anfon manylion am drothwy nifer y damweiniau ffyrdd a fydd yn golygu bod mesurau diogelwch ar y ffyrdd a/neu fesurau i atal damweiniau ar y ffyrdd yn cael eu rhoi ar waith, ynghyd â datganiad y Gweinidog ar fesurau i atal damweiniau ar y ffyrdd, at ddeisebwyr y ddeiseb Diogelwch ar y Ffyrdd yn Llansbyddyd i gael eu sylwadau arnynt, ar ôl i’r pwyllgor gael y wybodaeth honno gan y Gweinidog;
Anfon trawsgrifiad o’r cyfarfod at y pedwar grŵp o ddeisebwyr a chyngor cymuned Llansbyddyd i gael eu sylwadau arnynt.
Anfon yr astudiaeth o’r sefyllfa cyn ac ar ôl gwneud newidiadau at ddeisebwyr y ddeiseb Atebion Lleol i Dagfeydd Traffig yn y Drenewydd ar ôl i’r pwyllgor ei chael gan y Gweinidog.
6. Papurau i'w nodi
6.1P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.